7 Hydref 2015

Annwyl Gadeirydd

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi penderfynu cynhyrchu adroddiad etifeddiaeth ac mae'n casglu barn ar y gwaith y mae wedi ei wneud yn ystod y pum mlynedd diwethaf gan gynnwys y strwythurau y mae wedi rhoi ar waith, y diwygiadau gweithdrefnol y mae wedi cyflwyno, a'i ffyrdd o weithio. Bydd yr adroddiad terfynol yn helpu i lywio'r pwyllgor olynol i wneud nifer o benderfyniadau allweddol ar ddechrau'r Pumed Cynulliad.

 

Mae'r Pwyllgor yn ymgynghori ar y cwestiynau a nodir yn Atodiad A. Byddwch yn ymwybodol fy mod eisoes wedi sefydlu Fforwm i Gadeiryddion i ystyried llawer o'r materion hyn o safbwynt pwyllgor, ac i gyflwyno adroddiad i mi erbyn diwedd y flwyddyn. Bydd adroddiad y Fforwm i Gadeiryddion yn rhan o adroddiad etifeddiaeth y Pwyllgor Busnes ei hun, ond roeddwn eisiau rhoi cyfle ychwanegol i'ch  pwyllgor, drwy'r ymgynghoriad hwn, i godi unrhyw faterion penodol sy'n ymwneud â gwaith eich pwyllgor y byddech efallai am dynnu sylw'r Pwyllgor Busnes atynt.

 

Mae’r Pwyllgor hefyd yn ymgynghori â rhanddeiliaid allanol, a’r dyddiad cau ar gyfer sylwadau yw 13 Tachwedd 2015. Byddwn yn cyfarfod ddechrau mis Rhagfyr i ystyried y dystiolaeth a gasglwyd, felly gofynnwn ichi gyflwyno sylwadau mewn da bryd er mwyn iddynt gael eu hystyried yn y cyfarfod hwnnw.

 

Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig at  SeneddPwyllgorBusnes@Cynulliad.Cymru. Fel arall, gallwch ysgrifennu at: Clerc y Pwyllgor, Y Pwyllgor Busnes, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA. 

 

Datgelu gwybodaeth

Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth yn http://www.cynulliad.cymru/cy/help/privacy/Pages/help-inquiry-privacy.aspx Gofynnwn ichi sicrhau eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor. Fel arall, mae copi caled o'r polisi hwn ar gael drwy gysylltu â'r Clerc.

 



Y Fonesig Rosemary Butler AC

Cadeirydd y Pwyllgor Busnes

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Atodiad A

Cylch gorchwyl yr ymchwiliad:

 

Yn ystod y Cynulliad presennol, mae'r Llywydd a'r Pwyllgor Busnes wedi cyflwyno nifer o ddiwygiadau gweithdrefnol, gan gynnwys newid y dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno Cwestiynau Llafar y Cynulliad, cyflwyno Dadleuon Aelodau Unigol rheolaidd, a chwestiynau arweinwyr a llefarwyr y pleidiau.

 

o   Pa effaith a gafodd y diwygiadau hyn o ran galluogi Aelodau i gynrychioli eu hetholwyr a dwyn y Llywodraeth i gyfrif?

Am y tro cyntaf, mae strwythur pwyllgorau'r Pedwerydd Cynulliad wedi cyfuno craffu ar bolisi a chraffu deddfwriaethol o fewn yr un pwyllgorau.

 

o   Pa mor effeithiol y mae'r dull hwn wedi bod a sut mae'r pwyllgorau wedi sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith craffu ar bolisi, craffu ariannol a chraffu deddfwriaethol?

o   Pa newidiadau y gellid eu gwneud i faint a strwythur pwyllgorau yn y dyfodol i'w gwneud yn fwy effeithiol?

Y Pwyllgor Busnes sy'n gyfrifol am bennu amserlen y Cynulliad, gan gynnwys amserlennu cyfarfodydd y pwyllgorau. Ar hyn o bryd, cynhelir y Cyfarfod Llawn ar brynhawn Mawrth a phrynhawn Mercher, gyda phwyllgorau yn cwrdd yn bennaf ar fore Mawrth a bore Mercher a dydd Iau.

 

o   A yw amserlen bresennol y Cynulliad, gan gynnwys strwythur yr wythnos waith a sesiynau'r pwyllgorau / Cyfarfod Llawn yn sicrhau'r cydbwysedd cywir o ran y defnydd o amser y Cynulliad, a chaniatáu iddo gyflawni ei swyddogaethau'n effeithiol o ran deddfu, cynrychioli pobl Cymru a dwyn y Llywodraeth i gyfrif;

Y Pwyllgor Busnes sy'n gyfrifol am sefydlu amserlenni ar gyfer pwyllgorau i ystyried Biliau a Chynigion Cydsyniad Deddfwriaethol, yn unol â'r Rheolau Sefydlog.

o   A yw'r prosesau presennol ar gyfer amserlennu deddfwriaeth - gan gynnwys Biliau a Chynigion Cydsyniad Deddfwriaethol - yn caniatáu ar gyfer craffu priodol ac ymgysylltu gan Aelodau a rhanddeiliaid? A ellid eu gwneud yn fwy effeithiol?

Yn wahanol i bwyllgorau cyfatebol mewn llawer o deddfwrfeydd eraill, mae Pwyllgor Busnes y Cynulliad yn cyfuno'r swyddogaeth o amserlennu busnes y Cynulliad gyda swyddogaethau 'pwyllgor gweithdrefnau' sy'n gyfrifol am ystyried a chynnig newidiadau i Reolau Sefydlog a gweithdrefnau'r Cynulliad.

 

o   Beth yw manteision ac anfanteision y rôl ddeuol hon, ac a oes achos dros ei hadolygu?